Annwyl randdeiliad, Yn 2014, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, sy’n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau lleol yng Nghymru fapio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol yn eu hardal a chynllunio ar eu cyfer. Mae teithio llesol yn cyfeirio at y defnydd o ddulliau llesol, h.y. cerdded a beicio (gan gynnwys defnyddio sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn trydanol), i wneud teithiau bob dydd. Mae’r rhain yn cynnwys teithiau i’r gwaith, i’r siopau, neu i gyrchu gwasanaethau, fel iechyd, canolfannau hamdden a gorsafoedd bysiau/trenau. Mae Cyngor Sir Penfro yn bwriadu gwneud teithio llesol yn ddewis poblogaidd ar gyfer teithiau lleol, er mwyn cynyddu atyniad cymunedau lleol fel lleoedd i fyw a gweithio ynddynt, i wella iechyd a llesiant, ac i helpu i fynd i’r afael â llygredd aer. Er mwyn helpu gyda’r nod hwn, mae Cyngor Sir Penfro yn cynhyrchu Map Rhwydwaith Teithio Llesol, sy’n gynllun o lwybrau cerdded a beicio mewn aneddiadau dynodedig yn Sir Benfro, fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Defnyddir y Map Rhwydwaith Teithio Llesol i lywio lle y dylid gwneud gwelliannau i alluogi cerdded a beicio. Bydd yn helpu i wneud teithiau ar droed neu ar feic ledled Sir Benfro yn haws ac yn fwy diogel i bawb, yn enwedig y rhai nad ydynt yn cerdded neu’n beicio yn aml ar hyn o bryd, a phobl sy’n defnyddio cymhorthion symudedd. Er mwyn cynorthwyo yn y gwaith o ddatblygu’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol, mae Cyngor Sir Penfro yn ymgymryd ag ymgynghoriad ar sut y gellir gwella llwybrau a chyfleusterau yn y sir er mwyn annog cerdded a beicio. Teithio llesol sy’n gweithio i bawb Er mwyn cynllunio rhwydwaith sy’n gweithio i bawb, hoffai’r cyngor ddefnyddio’r ymgynghoriad hwn i gasglu barn cymaint o bobl â phosibl, yn enwedig y rhai nad ydynt yn cerdded neu’n beicio’n aml ar hyn o bryd. Bydd hyn yn helpu’r cyngor i sicrhau bod y llwybrau a adeiladir ar gyfer cerdded a beicio yn gweithio i’r gymuned gyfan. Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntiau ar y prif drefi a phentrefi yn Sir Benfro, sydd wedi’u dethol gan Lywodraeth Cymru fel y lleoliadau dynodedig yn y sir. Mae’r rhain fel a ganlyn: AbergwaunWdigHwlfforddJohnstonAberdaugleddauNeylandDoc PenfroPenfroDinbych-y-pysgodSaundersfootArberth Rhowch eich barn Gallwch gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori ar-lein trwy ein hofferyn mapio rhyngweithiol, sy’n cael ei letya gan Commonplace yn: https://pembrokeshire.commonplace.is/ Mae’r map rhyngweithiol yn caniatáu i gyfranogwyr dynnu sylw at faterion, problemau a llwyddiant ar gynllun o bob anheddiad teithio llesol ac ychwanegu sylwadau. Bydd cam cyntaf yr ymgynghoriad yn cau ar 31 Mawrth 2021. Beth nesaf? Dyma gam cyntaf yr ymgynghoriad tri cham ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol. Bydd y canfyddiadau yn cynorthwyo’r cyngor i nodi uwchraddiadau i gyfleusterau teithio llesol cyfredol a chreu llwybrau cerdded a beicio newydd. Yn dilyn hyn, bydd ail gam yr ymgynghoriad yn gweld y cyngor yn rhannu canfyddiadau ac yn gofyn i bobl beth yw eu barn am y cynlluniau y mae’r cyngor yn eu cynnig o ganlyniad i’r adborth a roddwyd iddo. Bydd trydydd cam yr ymgynghoriad yn rhoi llais olaf i aelodau’r cyhoedd ar yr Map Rhwydwaith Teithio Llesol cyn ei anfon at Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo. Cynhyrchir y map gan ystyried adborth gan y cyhoedd a syniadau o’r ymgynghoriadau cychwynnol. Defnyddir y map rhwydwaith cerdded a beicio sydd wedi’i gymeradwyo i lywio lle y bydd llwybrau cerdded a beicio yn cael eu hadeiladu yn Sir Benfro yn y dyfodol, felly mae’n bwysig ein bod ni’n cael pethau’n gywir nawr. Lledaenu’r neges Diolch am gymryd rhan yn ein hymgynghoriad a dweud wrthym lle hoffech chi weld gwelliannau i gyfleoedd cerdded a beicio yn Sir Benfro. Rhannwch y wybodaeth hon â’ch ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chymunedau. I’r rhai sy’n methu â chyrchu ein deunydd ymgysylltu ar-lein, gellir darparu copïau sydd wedi’u hargraffu o’r map rhwydwaith a’r arolwg trwy’r post, yn rhad ac am ddim. Gweler isod am fanylion cyswllt. E-bost: surveys@pembrokeshire.gov.uk |
Post: Strategaeth Drafnidiaeth (Teithio Llesol)
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP