Drop-in sessions have been arranged by the local authority for concessionary bus pass holders who are unable to renew their cards online.
Transport for Wales recently announced that ‘Concessionary Travel Cards’ are being introduced to replace the current passes which will expire on 31st December.
To renew a bus pass apply at: tfw.wales/travelcards
For those unable to do this or who do not have anyone to do it on their behalf, Pembrokeshire County Council is offering assistance through drop-in sessions at libraries in Pembrokeshire during November.
Those attending will need with them:
• their existing bus pass with its 19-digit number printed on the front
• date of birth
• the postcode their current card is registered to
• National Insurance number (if over 16) which is on pension statements, disability statements or pay slips.
The drop-in sessions are taking place at the following libraries on:
• Monday, 11th November, at: Tenby (between 10 am and 1pm) and Neyland (2 pm – 4 pm)
• Tuesday, 12th November: Fishguard (10 am – 1 pm) and St Davids (2 pm – 5 pm)
• Wednesday, 13th November: The Riverside, Haverfordwest (10 am – 1 pm) and Milford Haven (2 pm – 4 pm)
• Thursday,14th November: Narberth (10 am – 1 pm) and Saundersfoot (2 pm – 5 pm)
• Friday, 15th November: Pembroke (11 am – 1 pm) and Pembroke Dock (2 pm – 5 pm)
• Monday, 18th November: Milford Haven (10 am – 1 pm) and Pembroke Dock (2 pm – 5 pm)
• Tuesday, 19th November: The Riverside, Haverfordwest (10 am – 1 pm) and Crymych (3.30 pm – 5.30 pm)
• Wednesday, 20th November: Newport (2 pm – 4 pm)
• Thursday, 21st November: Fishguard (10 am – 1 pm)
• Friday, 22nd November: Tenby (10 am – 1 pm) Haverfordwest (2 pm – 5 pm).
For further information contact: Len Mullins, Press and Public Relations Manager, on 01437 775387. The Council’s press releases are also available on the Authority’s website: http://www.pembrokeshire.gov.uk
SESIYNAU GALW HEIBIO AR GYFER CARDIAU BWS
Trefnwyd sesiynau galw heibio gan yr awdurdod lleol i ddeiliaid cardiau mantais bws sy’n methu adnewyddu eu cardiau ar-lein.
Cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru’n ddiweddar bod ‘Cardiau Teithio Rhatach’ yn cael eu cyflwyno i ddisodli’r cardiau presennol fydd yn dod i ben ar 31ain Rhagfyr.
I adnewyddu cerdyn bws gwnewch gais yn: tfw.cymru/cerdynteithio
I’r rhai sy’n methu gwneud hyn neu sydd heb neb i’w wneud ar eu rhan, mae Cyngor Sir Penfro’n cynnig cymorth trwy sesiynau galw heibio mewn llyfrgelloedd yn Sir Benfro yn ystod mis Tachwedd.
Bydd angen y canlynol ar bawb sy’n dod:
• eu cerdyn bws presennol gyda’i rif 19 digid ar y blaen
• dyddiad geni
• y cod post lle cofrestrwyd eu cerdyn presennol
• rhif Yswiriant Gwladol (os ydynt dros 16) sydd ar ddatganiadau pensiwn, datganiadau anabledd neu slipiau cyflog.
Mae’r sesiynau galw heibio’n cael eu cynnal yn y llyfrgelloedd canlynol ar:
• Dydd Llun, 11eg Tachwedd: Dinbych-y-pysgod (10am – 1pm) a Neyland (2pm – 4pm)
• Dydd Mawrth, 12fed Tachwedd: Abergwaun (10am – 1pm) a Thyddewi (2pm – 5pm)
• Dydd Mercher, 13eg Tachwedd: Glan-yr-afon, Hwlffordd (10am – 1pm) ac Aberdaugleddau (2pm – 4pm)
• Dydd Iau, 14eg Tachwedd: Arberth (10am – 1pm) a Saundersfoot (2pm – 5pm)
• Dydd Gwener, 15fed Tachwedd: Penfro (11am – 1pm) a Doc Penfro (2pm – 5pm)
• Dydd Llun, 18fed Tachwedd: Aberdaugleddau (10am – 1pm) a Doc Penfro (2pm – 5pm)
• Dydd Mawrth, 19eg Tachwedd: Glan-yr-afon, Hwlffordd (10am – 1pm) a Chrymych (3.30pm – 5.30pm)
• Dydd Mercher, 20fed Tachwedd: Trefdraeth (2pm – 4pm)
• Dydd Iau, 21ain Tachwedd: Abergwaun (10am – 1pm)
• Dydd Gwener, 22ain Tachwedd: Dinbych-y-pysgod (10am – 1pm) Hwlffordd (2pm – 5pm).
Geiriad
Y cerdyn bws newydd.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Len Mullins, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, ar 01437 775387. Mae datganiadau’r Cyngor i’r Wasg i’w cael hefyd ar wefan yr Awdurdod: http://www.sir-benfro.gov.uk